Melting Slate. Meddalu Llechi.
Melting Slate.
I am very fortunate that my home is located in a wonderful landscape, one that is surrounded by the Carneddau mountains and lies in the shadow of the imposing slate quarry.
The place where I was brought up exists because of the quarrying industry therefore the slate is naturally an important part of my identity. There is so much history embedded in the slate and as a living part of the scarred rocks.
It was almost impossible for me not to experiment with slate as it is so accessible to me and mounds of slate have always been in the background as a backdrop to my life. I could see that there was so much potential to be created with slate but felt that it is generally considered to be a dull material as it is mainly used for gravestones and roofs.
I was therefore determined to try and create something new and exciting with slate and was encouraged while studying on the BA Artist Designer: Maker course in Cardiff to experiment as much as possible. As Slate has derived from clay it made sense for me to try to combine both materials and their processes.
It is exciting to work with a material starting with its original state and then engaging with its stages of change.
Meddalu Llechi.
Rwyf yn lwcus bod fy nghartref yn rhan o dirwedd hyfryd, un sydd wedi ei hamgylchynu gan y Carneddau ac sydd yng nghysgod y chwarel drawiadol.
Mae'r fro hon, lle cefais fy magu yn bodoli oherwydd y diwydiant chwarelyddol ac felly yn naturiol mae'r llechen yn rhan bwysig o'm hunaniaeth.
Mae yna gymaint o hanes yn gysylltiedig â'r llechen ac yn rhan fyw o greithiau'r graig.
Roedd felly bron yn amhosib i mi beidio ag arbrofi gyda llechi gan fod cymaint ohono o fewn cyrraedd i mi a thomenni ohono wedi bod yn y cefndir trwy gydol fy mywyd. Roeddwn yn gallu gweld bod cymaint o botensial i greu efo llechan ond yn teimlo ei fod yn cael ei ystyried fel deunydd diflas gan mai ei brif ddefnydd yw creu cerrig beddi a thoeon.
Roeddwn felly yn benderfynol o geisio creu rhywbeth newydd a chyffrous efo'r llechan a chefais fy annog tra'n astudio ar y cwrs Artist Dylunydd : Gwneuthurwr yn Gaerdydd i arbrofi cymaint ag y gallwn. Oherwydd fy niddordeb mewn clai roedd yn gwneud synnwyr i mi geisio cyfuno'r ddau ddeunydd a'u prosesau.
Mae'n gyffrous gweithio gyda deunydd o'i gyflwr gwreiddiol a chymryd rhan yn y camau wrth iddo newid.
Reclaimed Welsh slate melted and shaped and a porcelain bowls painted with gorse flower glaze
My understanding of my materials capabilities has come through comprehensive testing. I’ve discovered ways of firing slate in the Kiln so that this hard material becomes malleable when fired to a high enough temperature. The slate varies in its reaction to being kiln fired depending on it’s size, what quarry it’s from and the properties in the stone.
I have control in shaping and slumping the slate to create curves and waves so the slab of slate can be used as unique, one of a kind shelving. I use the slate shelves as bases for my ceramic bowls. Each bowl I make has pieces of Welsh slate embedded in its surface or is applied with a glaze made of slate or other materials from the landscape such as the flower gorse.
Rwyf wedi dod i ddeall gallu’r deunyddiau trwy brofion cynhwysfawr. Rwyf wedi darganfod ffyrdd o danio llechi yn yr odyn fel bod y deunydd caled hwn yn mynd yn hawdd i’w drin pan gaiff ei danio i dymheredd digon uchel. Mae'r llechen yn amrywio yn ei hymateb wrth gael ei thanio mewn odyn gan ei bod yn dibynnu ar ei maint, o ba chwarel y mae’n dod a'r priodweddau yn y garreg.
Rwy’n gallu ei rheoli trwy siapio a gwasgu’r llechen i greu llinellau crwm a thonnog fel y gellir defnyddio'r slabiau o lechi fel silffoedd unigryw. Defnyddiaf y silffoedd llechi fel darnau i ddal i fy mowlenni ceramig. Mae darnau o lechi Cymreig wedi eu gosod ar arwyneb pob bowlen a wnaf neu mae’r gwydredd sy’n cael ei daenu ar y powlenni wedi’i wneud o lechi neu ddeunyddiau eraill o'r dirwedd megis blodau’r eithin.
Welsh Slate Before & After Melting :
An old Welsh slate roof tile before firing
Slate tile after shaping and firing placed with a stoneware bowl decorated with a gorse flower glaze